Dygynnelw
Oddi ar Wicipedia
Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6ed ganrif ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.
Dim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):
-
- 'Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
- Tristfardd bardd Urien,
- A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
- Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.'
Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.
Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).
Yn anffodus mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.
[golygu] Ffynonellau
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991), triawd 11, t. 331.
- Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr (Caerdydd, 1991), t. 367.
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |