Rhydderch Hael
Oddi ar Wicipedia
Brenin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Rhydderch Hael, hefyd Rhydderch Hen (bu farw tua 603). Roedd yn fab i'r brenin Tudwal Tudclyd.
Yn Achau'r Saeson ceir cofnod amdano'n ymladd gyda Urien Rheged, Gwallawg, a Morgan yn erbyn Hussa, brenin Northumbria tua 590. Ceir cyfeiriad ato hefyd gan Adamnan yn ei waith Buchedd Colum Cille, lle dywed ei fod yn gyfaill i Colum Cille. Yn ôl Buchedd Cyndeyrn bu ef a Sant Cyndeyrn farw yr un flwyddyn. Ceir cyfeiriad ato yn Bonedd Gwŷr y Gogledd hefyd.
Yn ddiweddarch ceir cyfeiriadau ato yn y chwedlau ynghylch Myrddin a geir yng ngherddi Llyfr Du Caerfyrddin. Dywedir mai ef oedd yn fuddugol ym Mrwydr Arfderydd yn erbyn Gwenddoleu fab Ceidio. Yn y Trioedd ceir cyfeiriad at anrheithio ei lys gan Aiddan (Áedán mac Gabráin), brenin Dál Riata.
[golygu] Cyfeiriadau
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991).
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |