Eryrys
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Eryrys. Saif bum milltir i'r de o dref yr Wyddgrug ac ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanarmon-yn-Iâl. Ar fryn carreg galch Bryn Alyn, mae'r pentref 350m uwch lefel y môr, ac yn un o'r cystadleuwyr am y teitl o bentref uchaf Cymru.
Crewyd plwyf Eryrys yn 1861; cyn hynny roedd yr ardal yn rhan o blwyf Llanarmon-yn-Iâl. Dechreuwyd adeiladu'r eglwys, oedd wedi ei chysegru i Dewi Sant, yn 1862, ond caewyd hi yn y 1980au. Mae'r adeilad yn cael ei ddatblygu fel canolfan gymuned.
Ar un adeg roedd gweithfeydd plwm yn yr ardal, ac mai rhai cloddfeydd carreg galch yn dal i gael eu gweithio.
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |