Cefn Meiriadog
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw’r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i’r de-orllewin o dref Llanelwy, ac heb fod ymhell o Ogof Pontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o’r gweddillion dynol hynaf yng Nghymru. Mae beddrod o’r cyfnod Neolithig gerllaw.
Dywedir i’r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5ed ganrif . Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau. Bu’r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Dewi Roberts The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch. 1999) ISBN 0-86381-562-6
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |