Opera
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffurf o ddrama trwy gyfrwng cerddoriaeth yw opera. Fe ymddangosodd yn yr Eidal ar ddechreuad y 15fed ganrif, ac fe'i chysylltir â cherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Mae sawl agwedd o opera yn debyg i ddrama gyffredin: actio, gwisgoedd, ac addurn llwyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i ffurfiau eraill o ddrama, canu sydd wrth graidd opera. Cyfeilir y canwyr gan grŵp o offerynwyr, a all fod cyn lleied ag 13 o offerynwyr (mewn operâu Benjamin Britten er enghraifft) neu'n gerddorfa symffonig llawn (fel mewn operâu Wagner). Weithiau defnyddir dawns yn ogystal, yn enwedig yn y traddodiad Ffrengig (gyda chyfansoddwyr megis Lully a Rameau).
Mae sawl traddodiad o wahanol lefydd yn y byd a gelwir yn opera hefyd, Opera Tseinïaidd er enghraifft. Fodd bynnag, er fod ffurf tebyg ganddynt, datblygodd y traddodiadau hyn ar wahan: maent yn ffurfiau celfyddol nad ydynt yn dibynnol ar Opera Gorllewinol.