Siôn Tudur
Oddi ar Wicipedia
Bardd Cymraeg oedd Siôn Tudur (cyn 1530 - 3 Ebrill 1602).
Roedd Siôn Tudur yn ŵr bonheddig, ac yn byw yn y Wigfair ger Cefn Meiriadog yn Sir Ddinbych. Bu yn byw yn Llundain am gyfnod, yn gwasanaethu yng ngard y frenhines Elisabeth I. Cafodd ei urddo yn "ddisgybl Penceirddaidd" yn Eisteddfod Caerwys yn 1568. Canodd gywyddau mawl a marwnadau i lawer o deuluoedd uchelwrol gogledd Cymru. Cymerodd ran mewn ymryson barddol ag Edmwnd Prys, Tomos Prys a Siôn Phylip.
Roedd yn briod a Mallt, merch Pyrs Gruffudd o Gaerwys, a chwasant dri o blant. Ceir nodyn yn ei lawysgrif yn Llyfr Du Caerfyrddin.