Jeriwsalem
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prif ddinas Israel yw Jeriwsalem (hefyd Caersalem yn Gymraeg; Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושליםyn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Lleolir Jeriwsalem ar fryniau o uchder canolig yng nghanol Bryniau Jwdea, tua 30km i'r gorllewin o lannau gogledd-orllewinol y Môr Marw.
[golygu] Hanes
Digwydd y cyfeiriadau cynharaf at Jeriwsalem yn llyfrau'r Hen Destament. Cipiodd Nebuchodnesar y ddinas a dygodd i ffwrdd y rhan fwyaf o'r trigolion yn gaethweision i Fabilon.
Gwelai'r ddinas sawl brwydr yn ystod y Croesgadau. Ffurfiwyd urdd Marchogion yr Ysbyty yno tua'r flwyddyn 1070.
[golygu] Crefydd
Cyfeirir yn aml at Jeriwsalem yn yr Hen Destament. Cododd Solomon ei deml enwog yno i ddiogelu Arch y Cyfamod. Ar fapiau canoloesol lleolir y ddinas yng nghanol y byd a chredid y byddai'r Ail Ddyfodiad yn digwydd yn Nyffryn Jehoshaphat yn ymyl y ddinas a Jersiwsalem Newydd yn cael ei chodi.
Mae'r Iddewon yn ystyried dinistr Teml Herod yn y flwyddyn 70 gan y Rhufeiniaid dan Titus yn drychineb cenedlaethol a gofir hyd heddiw. Mae'r cysegrfan Islamaidd, y Gromen ar y Graig (Al-Aqsa) yn sefyll ar ei safle heddiw.
I'r Cristnogion mae Jeriwsalem yn ddinas sanctaidd oherwydd ei lle amlwg ym mywyd Iesu Grist; y lle pwysicaf a gysylltir ag ef yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd ar y bryn gorllewinol lle honodd yr ymerodr Cwstennin fod bedd Crist i'w gael. Mae'r Via Dolorosa yn dilyn y llwybr a gerddwyd gan Grist o lys Pontius Pilate i Fryn Calfaria.
[golygu] Y ddinas heddiw
Heddiw mae tua 700,000 o bobl yn byw yn y ddinas ac mae'r amrywiaeth o genedlaethau, crefyddau a chymdeithas a geir yndi'n fawr iawn. Mae gan yr "Hen Ddinas", sydd yng nghanol y ddinas bresennol, fur o'i hamgylch. Rhennir y dref o gwmpas yr "Hen Ddinas" yn bedair ardal: un i'r Iddewon, un i'r Cristnogion, un i'r Armeniaid ac un arall i'r Mwslemiaid.
Mae anghytundeb am statws y ddinas. Mae hi ar y llinell cadoediad rhwng Israel a'r Lan Orllewinol y cytunwyd arni yn Cytundeb Cadoediad 1949, ond mae Israel yn rheoli'r holl ddinas ac yn ôl cyfraith Israel hi yw prifddinas y wlad. Felly mae llywodraeth Israel a llawer o sefydliadau Iddewig eraill yno. Ond mae llawer o wledydd sydd ddim yn derbyn hawl Israel i reoli Jeriwsalem, ac felly mae eu llysgenadaethau yn Tel Aviv neu ym maestrefi Jeriwsalem.