Yr Oesoedd Canol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfnod hanesyddol sy'n ymestyn yn fras o gwymp Rhufain ar ddiwedd y 4edd ganrif i gyfnod y Dadeni a chychwyn y Diwygiad Protestanaidd (1515). Fe'i rhagfleinir yn hanesiaeth draddodiadol Ewrop gan y cyfnod Clasurol (Gwareiddiad Rhufain a Gwlad Groeg) ac fe'i olynir gan y Cyfnod Diweddar, sy'n parhau hyd heddiw. Yn Ewrop gellid ei rannu'n dri is-gyfnod: Yr Oesoedd Canol Cynnar a elwir hefyd Yr Oesoedd Tywyll, Yr Oesoedd Canol Uwch a'r Oesoedd Canol Diweddar. Yn naturiol mae hyd y cyfnodau hyn yn amrywio cryn dipyn o wlad i wlad. Defnyddir y term i ddisgrifio cyfnodau cyffelyb yn hanes gwledydd eraill hefyd, yn arbennig yn achos gwledydd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.
Ar ôl cwymp Ymerodraeth Rhufain yr oedd hi'n gyfnod ansefydlogol iawn yn Ewrop. Roedd pobl o bob rhan o'r byd yn symud trwy'r cyfandir ac felly roedd y gymdeithas yn newid. Ar wahân i'r anhrefn ar ôl i'r Mongolaid ddod i Ewrop, roedd y sefyllfa yn gwella ar ôl 1000.
Roedd y Canol Oesoedd yn gyfnod o afiechydon mawr hefyd, gyda'r pla yn lladd tuag 1/3 o boblogaedd Ewrop yn y 14fed canrif.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.