Pentre Berw
Oddi ar Wicipedia
Mae Pentre Berw yn bentref yn rhan ddeheuol Ynys Môn. Saif ar y briffordd A5, ychydig i'r gorllewin o'r Gaerwen a gerllaw Afon Cefni, ar ymylon Cors Ddyga.
Mae 'berw' yn ffurf ar y gair 'berwr' (cress). Berw oedd enw'r dref ganoloesol (cymuned o ffermydd a thai ar wasgar); tyfodd pentref ar y groesffordd a gafodd yr enw Pentre Berw.[1]
Yn y pentref mae gwesty yr Holland Arms a chanolfan garddio fawr o'r un enw. Roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi gerllaw'r pentref. Ar un adeg yr oedd diwydiant glo bychan yn yr ardal, a gellir gweld rhai o'r hen adeiladau o hyd.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |