Malltraeth (pentref)
Oddi ar Wicipedia
Mae Malltraeth yn bentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, ar ochr ogleddol aber Afon Cefni. Er ei fod yn bentref cymharol fychan mae yno ddwy dafarn, y Royal Oak a'r Joiners, a swyddfa'r post sydd hefyd yn siop.
Ar un adeg yr oedd y llanw'n cyrraedd ymhell i'r tir yma, gan greu ardal gorsiog Cors Ddyga. Adeiladwyd Cob Malltraeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn awr rheolir y llanw a dyfroedd Afon Cefni gan lifddorau.
Mae Malltraeth yn lle ardderchog i wylio adar, yn enwedig ar y pwll sydd ar ochr y tir i'r cob, sy'n un o'r safleoedd gorau ar Ynys Môn i weld rhydyddion a hwyaid. Ym Malltraeth yr oedd yr arlunydd adar adnabyddus Charles Tunnicliffe yn byw, a gellir gweld llawer o'i luniau o adar o amgylch y cob yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni.
[golygu] Gweler hefyd
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |