Heneglwys
Oddi ar Wicipedia
Pentref neu amlwd bychan a phlwyf ar Ynys Môn yw Heneglwys. Fe'i lleolir milltir i'r de o bentref Bodffordd tua hanner ffordd rhwng Gwalchmai i'r gorllewin a Llangefni i'r dwyrain.
Mae'r eglwys yn sefydliad hynafol. Enw arall arni gynt oedd Llan y Saint Llwydion ('llwyd' yn yr ystyr 'sanctaidd'). Ymddengys mai Gwyddel o'r enw Corbre a sefydlodd yr eglwys, yn y 6ed ganrif efallai; ceir llecyn gerllaw a elwir 'Mynwent Corbre'. Ceir sawl cyfeiriad at y fynwent honno yn y canu brud (daroganau ar gân) canoloesol.
Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin ceir englyn sy'n cyfeirio at fedd rhyfelwr o'r enw Ceri Cleddyfhir ym Mynwent Corbre yn Heneglwys:
- 'Bedd Ceri Cleddyfhir yng ngodir Heneglwys,
- Yn y diffwys graeandde,
- Tarw torment, ym mynwent Corbre.'
- (Llyfr Du Caerfyrddin, orgraff ddiweddar)
Roedd Heneglwys yn dref yn yr Oesoedd Canol, yng nghwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.
Yn Heneglwys y ganed William Glynn (1504 - 1558), Esgob Bangor o 1555 hyd 1558.
[golygu] Cyfeiriadau
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
- A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982). 18.14-16.
- Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972). Tud. 157.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |