Bodewryd
Oddi ar Wicipedia
Cymuned wledig ar Ynys Môn yw Bodewryd. Mae'n gorwedd yng ngogledd yr ynys tua dwy filltir i'r dwyrain o Llanfechell a thair milltir a hanner i'r de-orllewin o Amlwch.
Mae'r enw yn golygu 'Annedd Ewryd', ar ôl y sant cynnar Ewryd/Gerwyd (Lladin: Euridius), sydd fel arall yn anhysbys. Yr unig beth a wyddys amdano yw ei fod, yn ôl traddodiad, yn un o feibion Cynyr Ceinfarfog ac felly'n frawd i'r seintiau Non, Gwen a Banhadlwen.
Roedd Plas Bodewryd yn adnabyddus fel un o'r tai a noddai beirdd Môn yn yr Oesoedd Canol.
Brodor o Fodewryd oedd Edward Wyn (m. 1637), gŵr y brydyddes Elen Gwdman.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |