Cookie Policy Terms and Conditions Materion cymdeithasol yng Nghymru - Wicipedia

Materion cymdeithasol yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Fel rhan o wladwriaeth y Deyrnas Unedig, mae gan Gymru nifer o'r un materion cymdeithasol cyfoes (gweler materion cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig). Ond mae rhai materion cymdeithasol yng Nghymru yn berthnasol i'r wlad honno yn unig, yn bennaf pynciau llosg annibyniaeth a statws y Gymraeg.

Taflen Cynnwys

[golygu] Annibyniaeth ac ymreolaeth

Yn dilyn tebygolrwydd dyfodiad Gordon Brownn i fod yn Brif Weinidog, ac yntau yn cynrychioli etholaeth yn yr Alban, daeth "chwalu'r Undeb" – pwnc llosg ers blynyddoedd – i sylw unwaith eto ym Mhrydain, gyda chynnydd yng nghenedlaetholdebau Albanaidd a Seisnig. Roedd gan Yr Alban bellach ei senedd ei hun ac yr oedd nifer o'r Saeson ddim yn gweld ei bod yn deg bod Prif Weinidog o'r Alban yn penderfynnu ar bynciau yn Lloegr. O ganlyniad er cadw ei hygrededd gwelwyd Gordon Brown yn pwysleisio Prydeindod fwy ac yn fwy. Er bod arolwg gan ICM yn dweud bod 51% o Albanwyr o blaid annibyniaeth,[1] bu arolwg gan y BBC yn darganfod bod 68% o Gymry dal am fod yn rhan o'r Undeb, gyda dim ond 20% o blaid annibyniaeth.[2] Un o'r ffactorau sydd yn amlwg yn effeithio ar farn pobl yw'r effaith tybiedig gaiff chwalu'r Undeb ar yr economi: credai 48% o'r rhai a holwyd y byddai annibyniaeth yn gwneud Cymru'n dlotach.[2] Ond mae cenedlaetholwyr yn dadlau i'r gwrthwyneb, gan dynnu sylw at ffynniant economaidd Iwerddon a'r ffaith fod llawer o drethi Cymru yn mynd i'r llywodraeth ganolog a bod Fformiwla Barnett, sy'n ail-ddosbarthu rhan o'r incwm hwnnw, yn annheg i Gymru.

[golygu] Statws y Gymraeg

Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector gyhoeddus, ond dros y blynyddoedd daeth yn fwy fwy amlwg nad oedd y ddeddf yn gweithio a bod nifer o gyrff i bob pwrpas yn ei hanwybyddu. O ganlyniad bu ymgyrchu dros ddeddf iaith newydd i roi statws swyddogol i'r Gymraeg a sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector breifat. Yn bennaf gan Cymdeithas yr Iaith[3] ond hefyd Plaid Cymru a Cymuned. Tan Mai 2007 yr oedd Plaid Cymru, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Geidwadol o blaid, ond y Blaid Lafur yn erbyn, ond mae'n ymddangos iddi newid ei meddwl ar ôl etholiadau Cynulliad 2007. Yn ddiweddar mae Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, wedi dweud fod ganddo "ddyletswydd cyfreithiol" i hyrwyddo'r Gymraeg ac wedi galw am gryfhau'r Ddeddf bresennol; roedd yn siarad yng nghyfarfod blynyddol Cymuned fel siaradwr gwadd.

[golygu] Argyfwng tai

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Rhaniad Gogledd-De

Dywedir bod rhaniad Gogledd-De yn bodoli yng Nghymru. Mae ardaloedd trefol y de (dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) yn ffyniannus yn economaidd o gymharu ag ardaloedd gwledig a mynyddig y gogledd. Mae hefyd rhaniad diwylliannol, gyda medr y Gymraeg, hunaniaeth Gymreig a chenedlaetholdeb yn uwch yn y gogledd nag yn ardaloedd y de, sydd wedi'u Seisnigo mwy yn y mileniwm diwethaf.

Ar 4 Mai, 2004, dywedodd Jenny Randerson, AC Rhyddfrydol am Ganol Caerdydd:

Mae Cymru'n wynebu her oherwydd ei daearyddiaeth. Cyfeirir byth a hefyd yn y Siambr at y rhaniad gogledd-de.[4]

Canrannau siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru (Cyfrifiad 2001)
Canrannau siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru (Cyfrifiad 2001)

Dywed rhai bod ffiniau'r rhaniad yn esblygu, yn enwedig gyda newidiadau rhwng Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac awdurdodau lleol de-ddwyrain y wlad.[5] Er enghraifft, o ran nifer o siaradwyr y Gymraeg, darganfuodd Gyfrifiad 2001 bod mwy yn medru'r Gymraeg yn y gorllewin nag yn rhai siroedd yn y gogledd.

[golygu] Tlodi

Er bod Cymru'n wlad gymharol gyfoethog mewn cymhariaeth â'r mwyafrif o wledydd y byd, ond yn un o'r gwledydd tlotaf o fewn yr Undeb Ewropiaidd.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. "Pôl: Mwy o blaid annibyniaeth", BBC, 2 Tachwedd, 2006.
  2. 2.0 2.1 "68% am fod yn rhan o Brydain", BBC, 16 Ionawr, 2007.
  3. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Deddf Iaith Newydd
  4.  Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Y Cofnod Swyddogol 4 Mai, 2004. Adalwyd ar 25 Chwefror, 2007.
  5.  Etholiadau'n Eithrio [Etholiadau yng Nghymru] PDF. Adalwyd ar 25 Chwefror, 2007.
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu