Cristnogaeth yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Mae hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn ymestyn dros gyfnod o dros 1500 o flynyddoedd, o amser y Rhufeiniaid hyd heddiw. Felly mae hanes Cristnogaeth yn y wlad yn rhan annatod o hanes Cymru ac wedi effeithio'n sylweddol ar ei llenyddiaeth a'i diwylliant. Mae Cymru'n dal i gael ei ystyried yn wlad Gristnogol heddiw ond ceir dilynwyr sawl crefydd arall yn y wlad yn ogystal. Ond mae seciwlariaeth wedi cynyddu hefyd, a cheir canran o'r boblogaeth sy'n ystyried eu hunain yn anffyddwyr neu sydd ddim yn ymddiddori llawer mewn crefydd o gwbl.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Yr Eglwys Fore ac Oes y Seintiau
[golygu] Dechreuadau
Daeth Cristnogaeth i Ynys Brydain yn y cyfnod Rhufeinig. Celtiaid (y Brythoniaid) oedd y trigolion brodorol, ond ymsefydlodd pobl o rannau eraill o'r Ymerodraeth Rufeinig yn eu mysg. Mae'n debyg mae yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig y cafwyd y Cristnogion cyntaf. Ar ddechrau'r 3edd ganrif ceir tystiolaeth fod cenhadon Cristnogol yn weithgar yn y Brydain Rufeinig. Merthyrwyd tri ohonynt tua ganol y ganrif, sef y seintiau Aaron ac Iwliws (a ferthyrwyd yng Nghaerleon ac Alban. Cofnodir presenoldeb tri esgob o Brydain yng Nghyngor Arles yn 314. Lladin oedd iaith yr eglwys gynnar ac ymddengys iddi gymryd amser i ymwreiddio ym mywyd y bobloedd Brythoneg eu hiaith. Ni ddiflanodd amldduwiaeth y Brythoniaid dros nos ac am gyfnod hir mae'n rhaid fod y ddwy grefydd wedi bodoli ochr yn ochr. Un arall o'r Cristnogion cynnar hyn oedd Pelagius, a gollfarnwyd yn ddiweddarach fel heretig; mae lle i gredu ei fod yn Frython.
Yn yr Oesoedd Canol credid mai Lucius a ddaeth â Christnogaeth i Ynys Brydain yn yr 2ail ganrif a'i fod wedi sefydlu pump talaith eglwysig gyda Chymru'n archesgobaeth yn cael ei rheoli gan esgob yng Nghaerleon, ond gwyddys erbyn heddiw nad oes sail i'r hanes.
[golygu] Oes y Seintiau
Daeth Garmon (Germanus) o Auxerre i Brydain yn 429 i ymladd heresi Pelagius. Ymddengys fod y Gristnogaeth ar ei chryfaf yn ne-ddwyrain Cymru yr adeg honno, gyda Caerleon yn ganolbwynt. Ond er bod gwreiddiau Cristnogaeth yng Nghymru yn gorwedd yn y byd Rhufeinig, fel yn achos Iwerddon datblygodd Cymru ei ffurf arbennig o Gristnogaeth sy'n perthyn i Gristnogaeth y Celtiaid. Un o nodweddion y Gristnogaeth honno yw'r cyfnod a elwir yn Oes y Seintiau. Teithiau cenhadon ac addysgwyr trwy Gymru a rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd cynnar eraill, yn arbennig Iwerddon (cysylltir Sant Padrig â Chymru), Cernyw a Llydaw. Trwy'r Hen Ogledd roedd yna gysylltiad cryf â'r Alban hefyd (Cyndeyrn, nawddsant Glasgow, a sefydlodd esgobaeth Llanelwy yn ôl traddodiad). Y pwysicaf o'r seintiau cynnar hyn oedd Dewi Sant, ond dim ond yn ddiweddarach y daeth yn nawddsant Cymru ac mae'n bwysig cofio fod nifer o "seintiau" eraill yn weithgar hefyd, fel Padarn, Illtud, Seiriol, Teilo a Dyfrig, er enghraifft. Sefydlasant nifer o eglwysi, clasau (mynachlogydd cynnar) a chanolfannau dysg fel Llanilltud Fawr.
[golygu] Yr Oesoedd Canol
Daeth newid mawr i fyd crefyddol a gwleidyddol Cymru gyda dyfodiad y Normaniaid i'r wlad yn y 1070au. Roedd cael rheolaeth ar yr eglwys Gymreig yn bwysig iddynt er mwyn tynhau eu gafael ar y wlad. Ad-drefnwyd y drefn eglwysig Gymreig a sefydlwyd trefn esgobaethol yn seiliedig ar y patrwm ar y cyfandir gyda phedair esgobaeth, sef Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bangor, Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Morgannwg. Dyma'r cyfnod pan greuwyd y plwyfi cyntaf hefyd. Pwysleiswyd awdurdod y Pab yn Rhufain fel pennaeth anffaeledig yr Eglwys. Ceisiai archesgobion Caergaint, gyda chefnogaeth brenin Lloegr, gael yr esgobion Cymreig i dyngu llw o ffyddlondeb bersonol iddo a fyddai'n tanseilio annibyniaeth yr Eglwys Gymreig. Normaniaid oedd llawer o'r esgobion yn y cyfnod yma ond ceir Cymry yn eu plith yn ogystal. Ond bu adwaith a daeth cefnogaeth i'r syniad fod Cymru'n uned arbennig yn yr eglwys o gyfeiriad annisgwyl, gyda'r esgob Normanaidd Bernard ac, yn nes ymlaen, Gerallt Gymro, yn ceisio cael y Pab i gydnabod fod Cymru'n archesgobaeth gydag Esgob Tyddewi yn brimad (archesgob) arni. Ond methiant fu hynny yn y pen draw a thynwyd yr eglwys yng Nghymru i mewn i drefn newydd gydag archesgob Caergaint yn bennaeth arni.
Am weddill yr Oesoedd Canol roedd Cymru'n wlad drwyadl Gatholigaidd. Roedd addoli'r seintiau brodorol yn parhau i fod yr elfen amlycaf ym mywyd crefyddol y genedl, ond cynyddodd pwsigrwydd addoliad y Santes Fair a Mair Fadlen, ynghyd â'r apostolion fel Pedr a Pawl. Byddai pobl o bob gradd yn mynd ar bererindod os medrant, gydag Ynys Enlli, Tyddewi a Treffynnon yn ganolfannau pwysig. Roedd creiriau'r saint yn ganolbwynt addoliad hefyd, fel "Ceffyl" Derfel yn Llandderfel, a thyrrai nifer i weld Crog Aberhonddu yng Nghymru a'r Grog yng Nghaer, a fu'n destun sawl cerdd gan y beirdd.
Mawr fu dylanwad crefydd ar lenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Cafwyd nifer o destunau o Bucheddau'r Saint yn y cyfnod hwn hefyd, er enghraifft Buchedd Dewi gan Rhygyfarch. Cyfieithwyd darnau o'r Beibl yn ogystal â nifer o ysgrythurau apocryffaidd. Canai'r beirdd awdlau a chywyddau i Dduw, y Forwyn Fair a'r seintiau.
Sefydlwyd sawl tŷ crefyddol, a chwareai tai'r Sistersiaid yn enwedig - Abaty Ystrad Fflur er enghraifft - ran bwysig ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol y wlad gan fwynhau cefnogaeth tywysogion fel Llywelyn Fawr.
[golygu] Diwygiad a Gwrth-ddiwygiad
Ar ddiwedd y 1530au diddymwyd y mynachlogydd i gyd. Gyda'r Diwygiad Protestanaidd gwnaethpwyd Cymru yn wlad Brotestanaidd gyda Eglwys Loegr yn eglwys wladwriaethol Cymru a Lloegr. Yn 1563 pasiwyd deddf seneddol yn awdurdodi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Pedair blynedd ar ôl hynny cyhoeddwyd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg. Yna yn 1588 cyhoeddodd yr Esgob William Morgan y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan, llyfr a fyddai'n cael effaith fawr ar yr iaith Gymraeg dros y canrifoedd nesaf.
Dyma gyfnod o erlid ar y Catholigion. Merthyrwyd Richard Gwyn yn 1584 a gorfodwyd nifer o Gatholigion Cymreig fel Gruffydd Robert i ffoi i'r cyfandir. Oddi yno gwnaeth y Gwrthddiwygwyr Cymreig eu gorau i adennill i Gatholigaeth ei lle ym mywyd crefyddol y genedl, ond er iddynt gael peth llwyddiant, fel cyhoeddi'r Drych Cristionogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru, yn y dirgel (1586), ofer fu eu hymdrechion yn y diwedd.
[golygu] Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth
[golygu] Ymneilltuaeth a thwf y capeli
[golygu] Datgysylltu'r Eglwys Anglicanidd
[golygu] Heddiw
Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn galw eu hunain yn Gristnogion, ond mae'r nifer sy'n mynychu'r eglwysi a'r capeli'n rheolaidd yn sylweddol is. Mae'r crefyddau eraill yn cynnwys Bwdiaeth (0.19%), Hindwaeth (0.19%), Iddewaeth (0.08%), Islam (0.75%), Siciaeth (0.07%) (crefyddau eraill 0.24%). Cofnodwyd 18.53% o'r boblogaeth heb arddel unrhyw grefydd o gwbl gyda 8.07% yn gwrthod ateb.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
Ceir nifer fawr o lyfrau am Gristnogaeth yng Nghymru. Detholiad o'r llyfrau mwyaf allweddol yn unig a geir yma.
- Oliver Davies, Celtic Christianity in Early Medieval Wales (Caerdydd, 1996)
- Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (Caerdydd, ail arg., 1976)
[golygu] Gweler hefyd
- Crynwriaeth yng Nghymru
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- Rhestr esgobaethau Anglicanaidd Cymru
- Yr Eglwys yng Nghymru
Hanes: | Cynhanes • Cyfnod y Rhufeiniaid • Oes y Seintiau • Yr Oesoedd Canol Cynnar • Oes y Tywysogion • Yr Oesoedd Canol Diweddar • Cyfnod y Tuduriaid • Yr Ail Ganrif ar Bymtheg • Y Ddeunawfed Ganrif • Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg • Yr Ugeinfed Ganrif |
Gwleidyddiaeth: | Cenedlaetholdeb Cymreig • Cynulliad Cenedlaethol Cymru • Etholiadau • Heddychaeth • Materion cymdeithasol • Prif Weinidog Cymru • Y Swyddfa Gymreig • Ysgrifennydd Gwladol Cymru |
Daearyddiaeth: | Daeareg • Llynnoedd • Mynyddoedd • Ynysoedd |
Demograffeg: | Cymraeg • Cymry • Saesneg Gymreig |
Diwylliant: | Addysg • Cerddoriaeth • Cristnogaeth • Eisteddfod • Llenyddiaeth • Tîm rygbi'r undeb |
Hunaniaeth: | Baner genedlaethol • Baneri • Cenhinen • Cenhinen Bedr • Hen Wlad fy Nhadau • Hiraeth |