Mynydd Llandygái
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng Ngwynedd yw Mynydd Llandygái (hefyd "Mynydd Llandegai"). Fe'i lleolir ger ffin Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng Moelyci a'r Glyderau. Gwaun Gynfi yw'r enw ar y gweundir a adeiladwyd y pentref arno, ac ar y Waun sy'n weddill i'r gorllewin.
Tyfodd y pentref tra roedd Chwarel y Penrhyn yn ei hanterth, ac mae presenoldeb y chwarel ac argae Gorsaf bŵer Dinorwig yn gwrthgyferbyn â thirlyn naturiol yr ardal o hyd.
Ffurfir calon y pentref gan ddwy stryd gyfochrog, Tan y Bwlch a Llwybr Main, a adeiladwyd ar gyfer chwarelwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llain hir o dir yn gysylltiedig â phob tŷ ar y ddwy stryd.
Mae gwasanaeth bws o'r pentref i Fethesda a Bangor, y trefi agosaf. Pentref cyfagos eraill yw Tregarth (i'r gogledd-ddwyrain) a Dinorwig (yr ochr draw i'r Waun a'r Bwlch i'r gorllewin). Lleolir yr ysgol gynradd lleol, Ysgol Bodfeurig, yn Sling rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth.