Llanfachreth (Meirionnydd)
Oddi ar Wicipedia
Mae Llanfachreth (hefyd Llanfachraeth neu Llanfachraith) ym mhentref ym Meirionnydd, de Gwynedd. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau rhwng afon Wnion ac afon Wen. I'r gogledd ceir bryn uchel Rhobell Fawr.
Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llanfachraith yn rhan o gwmwd Tal-y-bont, Cantref Meirionnydd ac yn cynnwys Abaty Cymer.