Dyffryn Ardudwy
Oddi ar Wicipedia
Mae Dyffryn Ardudwy yn bentref ar y ffordd A496 rhwng Harlech ac Abermaw yng Ngwynedd. Mae pentref Llanbedr ychydig i'r gogledd a Tal-y-bont i'r de.
Mae twristiaeth yn bwysig i'r pentref bellach, gan ei fod gerllaw traethau Morfa Dyffryn. Ychydig i'r gorllewin o ganol y pentref mae gorsaf ar Reilffordd Arfordir Cymru.
Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref, yn cynnwys tair siambr gladdu Neolithig, Dyffryn Ardudwy ei hun, Bron y Foel Isaf a Cors y Gedol, sydd gerllaw hen blasty Cors y Gedol i'r dwyrain o'r pentref. Mae un arall fymryn i'r de ger Tal-y-bont, felly gellir casglu i'r ardal yma fod yn un boblog iawn yn y cyfnod Neolithig. Mae bryngaer Pen-y-Dinas o Oes yr Haearn hefyd gerllaw.
Brodor o Ddyffryn Ardudwy oedd Edward Morgan Humphreys, y newyddiadurwr a nofelydd.