Rhys Brydydd
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15fed ganrif) yn fardd o Forgannwg.
Y mae'n bosibl mai brawd i Rys Brydydd oedd y bardd Gwilym Tew (fl. c.1460 - c.1480), yntau o Forgannwg, neu'n fab iddo. Roedd yn daid i'r bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520 - 1625), athro barddol Gruffudd Hiraethog. Yn ôl ach Lewys yn llaw Gruffudd Hiraethog roedd Rhys Brydydd yn ddisgynydd i Einion ap Collwyn.
Dim ond pedair o gerddi Rhys sydd wedi goroesi. Mae dwy ohonyn' nhw'n gerddi crefyddol, sef mawl i Iesu a cherdd am bryder y bardd o flaen anisicrwydd y byd. Mae trydedd gerdd yn gywydd i ofyn cyfrwy gan noddwr anhysbys. Mae'r bedwerydd ar nodyn mwy bersonol ar y testun anghyffredin, unigryw efallai, i ofyn gwellhad oddi wrth frath neidr. Difyr yw'r disgrifiad o'r neidr a'i frathodd yn ei droed wrth iddo gerdded yn y bryniau:
-
- llom dorch yn rhoi llam o dwyn,
- llath unyd llywaeth wenwyn;
- llethri a drysi a draidd,
- lladrones gallodrennaidd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd, 1976)