Robert ab Ifan
Oddi ar Wicipedia
Robert ab Ifan neu Robert ab Ieuan neu Robert Ifans, bardd ac uchelwr o Frynsiencyn, Ynys Môn, a flodeuodd rhwng 1572 a 1603. Trigai ei noddwyr ym Môn a sir Ddinbych. Cyfansoddodd yn bennaf ar ôl ail Eisteddfod Caerwys (1567) ond ei waith mwyaf diddorol yw'r cyfresi o englynion o'i eiddo, er enghraifft y rhai ar achlysur daeargryn ar 26 Chwefror 1575. Gwnaeth gopi o gynnwys gramadeg y beirdd 1587 ac ysgrifennodd hanes Cyfundrefn y Beirdd gan dystio i'r amarch cynyddol a ddioddefai beirdd proffesiynol ei gyfnod.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Meic Stephens (golygydd), (Caerdydd 1997), ISBN 0-7083-1382-5 (Ail Argraffiad)