Siôn Cent
Oddi ar Wicipedia
Bardd a ganai ar bynciau crefyddol a chymdeithasol oedd Siôn Cent (fl. c.1400 - 1430/45). Ar sawl ystyr mae'n un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr ond ar yr un pryd yn sefyll ar wahân iddynt. Canai ar fesur y cywydd. Ceir nifer o gerddi a briodolir iddo yn y llawysgrifau Cymreig ond anodd gwybod os yw'r awduraeth yn ddilys yn achos y mwyafrif. Cedwir llun tybiedig ohono ym mhlas Llan-gain, Swydd Henffordd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei gefndir
Yr unig beth sicr a wyddom amdano yw ei fod yn perthyn i ardal Brycheiniog a bod ganddo gysylltiadau â'r gororau. Mae un o'i gywyddau mwyaf adnabyddus yn foliant i Frycheiniog:
- 'Brycheiniog, bro wych annwyl,
- Brychan dir, lle gwelir gŵyl.
- Brychan wlad Ifan dwyfawl,
- Braich Duw i'th gadw rhag broch braw!'
Ceir traddodiadau sy'n ei gysylltu ag ardal Rhos ar Wy a Kentchurch yn Swydd Henffordd hefyd. Cyfeirir at 'Ysgubor Siôn Cent' a 'Derwen Siôn Cent' ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, er enghraifft (mae cysylltiad rhwng y Scudamores ac Owain Glyndŵr yn ogystal).
Credai Saunders Lewis fod Siôn wedi graddio ym Mhrifysgol Rhydychen ac i'r athronydd Roger Bacon ddylanwadu arno.
[golygu] Ei ganu
Cedwir cywydd enwog gan Siôn Cent fu'n rhan o ymryson barddol rhyngddo â'i gyfoeswr Rhys Goch Eryri. Ynddo mae'n ymosod ar Awen y beirdd Cymraeg gan ei galw'n "awen gelwyddog" am ei bod yn seiliedig ar syniadaeth "baganaidd" ac am fod y beirdd yn moli â gormodiaith eithafol gwrthrychau annheilwng fel gwleddau, merched, plastai ac uchelwyr. Roedd hyn yn dechrau dadl fawr a aeth ymlaen am ddau gan mlynedd, gan gyrraedd ei huchafbwynt efallai yn ymryson barddol Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal ar droad yr 17eg ganrif.
Elfen amlwg yn ei waith yw ei sgeptigaeth lwyr tuag at werth "pethau'r llawr". Gwelir hyn ar ei fwyaf trawiadol yn ei gerdd enwocaf, 'I Wagedd ac Oferedd y Byd'. Mewn un adran mae'n pentyrru cwestiynau rhethregol am rwysg y byd darfodedig, e.e.
- 'Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
- Mae'r llysoedd aml? Mae'r lleisiad?
- Mae'r tai cornogion? Mae'r tir?
- Mae'r swyddau mawr, os haeddir?
- Mae'r trwsiad aml? Mae'r trysor?
- Mae'r da mawr ar dir a môr?
- A'r neuadd goed newydd gau,
- A'r plasoedd, a'r palisau?'
Ond mae lle i gredu fod Siôn ei hun wedi bod yn dipyn o ferchetwr yn ddyn ifanc, fel mae cerdd ganddo sy'n dangos ei edifeirwch am "ffolineb ieuenctid" yn awgrymu. Mae'n cyfaddef ei fod wedi denu merched "i'r llwyn", er enghraifft:
- 'Annoeth rwyf, heb ofn na thranc,
- Fy mywyd tra fûm ieuanc ;
- Camgerdded bedw a rhedyn,
- A choed glas yn uched glyn.'
Mae arddull Siôn yn syml a llawer llai addurnedig na gwaith y rhan fwyaf o'i gyfoeswyr. Mae'n hoff o ailadrodd i daro'r neges adref, yn chwarae efo geiriau, yn defnyddio diarhebion ac yn gwneud gwrthgyferbynnau trawiadol.
Cysylltir sawl cywydd brud ag enw Siôn yn ogystal, ond mae dilysrwydd eu hawduraeth yn ansicr. Yr unig gerdd o naws frudiol sydd efallai'n waith y bardd yw'r un a adnabyddir wrth ei llinell gloi enwog "Gobeithio a ddaw ydd wyf". Ynddi mae'n ymffrostio yng ngorffennol Cymru — 'Pennaf nasiwn, gwn gwmpas, / Erioed fuom ni o dras' — ac yn gresynu am ei chyflwr presennol gan obeithio y daw'r dydd pryd y gwelir dyfodiad y Mab Darogan.
Tyfodd nifer o chwedlau a thraddodiadau am Siôn Cent. Roedd yn cael ei ystyried yn fath o ddewin, yn fynach, yn Lolard chwyldroadol, ac yn ddoethur mawr. Mae lle i gredu fod cof amdano dros Glawdd Offa mewn traddodiad llên gwerin a geir mewn drama o'r enw John a Kent and John a Cumber (diwedd yr 16eg ganrif).
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Testunau
Ceir detholiad o gerddi'r bardd wedi'u golygu gan Ifor Williams yn,
- Henry Lewis et al., Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Caerdydd, 1937)
Ceir testunau cerddi a dadogir ar y bardd yn,
- Paul Quinn (gol.), Apocryffa Siôn Cent (Aberystwyth, 2004). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
[golygu] Darllen pellach
- Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
- Saunders Lewis, 'Siôn Cent' yn Meistri a'u Crefft (Caerdydd, 1981)