Deio ab Ieuan Du
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Deio ab Ieuan Du (fl. tua 1450 - 1480) yn fardd o blwyf Llangynfelyn, Ceredigion. Roedd yn gyfaill i'r bardd Dafydd Nanmor. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur y cywydd sy'n cynnwys y llinell gyfarwydd "Y ddraig goch ddyry cychwyn."
[golygu] Ei hanes
Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Mae'n bosibl iddo gael ei eni yn y 1410au ac ymddengys iddo farw tua 1480-1485. Cafodd ei gladdu ym mhlwyf Llangynfelyn, yn ardal Genau'r Glyn (rhwng Machynlleth ac Aberystwyth ar lan ddeheuol afon Dyfi).
Cysylltir Deio â Dafydd Nanmor, un o'r enwocaf o Feirdd yr Uchelwyr. Canodd y ddau i aelodau o deulu'r Tywyn, Meirionnydd, noddwyr pwysig yn y cyfnod hwnnw. Bu Deio ar sawl taith clera yng Ngheredigion a chanodd i noddwyr amlycaf y sir honno.
[golygu] Cerddi
Cedwir 22 o gerddi y gellir eu derbyn yn bur hyderus fel gwaith dilys y bardd. Yn ogystal ceir pum cerdd o awduraeth ansicr a dadogir arno. Cywyddau mawl yw'r rhan fwyaf o'r cerddi, ond ceir yn ogystal ddwy awdl ddychan a sawl englyn. Mae gwrthrychau'r cywyddau mawl yn cynnwys Rhys ap Maredudd o'r Tywyn, Gruffudd Fychan o Gorsygedol, a Maredudd ap Llywelyn o Enau'r Glyn. Yn ei gywydd i'r olaf mae'r bardd yn ei gyfarch ar ôl iddo ddianc o long yn cludo gwin o Ffrainc a suddodd yn aber afon Dyfi gan foddi saith allan o'r deg o wŷr ar ei bwrdd.
Daw'r llinell enwog am y Ddraig Goch mewn cywydd i ddiolch i Siôn ap Rhys o Aberpergwm (Glyn Nedd) am darw coch; y tarw yw'r "ddraig" (trosiad am ryfelwr). Mae'n gerdd sy'n amlygu llygad y bardd am natur ac sy'n llawn o ddelweddau difyr. Dyma'r cwpled llawn am y "ddraig" (a'r fuwch sy'n ei disgwyl) sy'n dangos fel y cafodd y llinell enwog ei thynnu allan o'i gyd-destun:
- Y ddraig goch ddyry cychwyn
- Ar ucha'r llall ar ochr llwyn.
[golygu] Llyfryddiaeth
- A. Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)