Lewys Morgannwg
Oddi ar Wicipedia
Lewys Morgannwg oedd enw barddol y bardd Cymraeg proffesiynol Llywelyn ap Rhisiart, (fl. 1520-1565). Roedd yn ‘Bencerdd y Tair Talaith,’ ac yn un o feirdd mwyaf y 16eg ganrif. Canai Lewys yn nhai Syr William Griffith o Benrhyn a noddwyr eraill. Roedd hefyd yn athro barddol; un o'i ddisgyblion mwyaf blaengar oedd Gruffudd Hiraethog.
Roedd Lewys Morgannwg yn frodor o Dir Iarll ym Morgannwg. Mae'n bosibl fod ganddo dŷ yn Llanilltud Fawr. Roedd ei dad Rhisiart ap Rhys yn fardd proffesiynol hefyd, ac mae'n debyg iddo gael ei addysg barddol gynnar ganddo. Yn ddiweddarach cafodd ei hyfforddi gan Tudur Aled, bardd mwyaf yr oes. Cafodd nawdd gan Syr Edward Stradling.
Treuliodd Lewys ran helaeth ei oes yn clera ledled Cymru. Cafodd ei wneud yn 'Bencerdd y Tair Talaith', pennaeth Cyfundrefn y Beirdd (1530-1560). Mae dros 100 o'i gerddi yn y llawysgrifau.
[golygu] Cyfeiriadau
- Cynfael Lake ac Ann Parry Owen (gol.) Gwaith Lewys Morgannwg (Aberystwyth, 2005)
[golygu] Dolenni Allanol
- [1] Bywgraffiad ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru