Dafydd ap Siencyn
Oddi ar Wicipedia
Herwr a bardd oedd Dafydd ap Siencyn (blodeuai tua 1450). Ei dad oedd Siancyn ap Dafydd ab Y Crach, a'i fam oedd Margred ferch Rhys, mab Rhys Gethin, cadfridog Owain Glyndŵr.
Yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau, roedd Dafydd, oedd yn berthynas i Owain Tudur, yn gefnogwr plaid y Lancastriaid. Pan droes y rhyfel yn erbyn y Lancastriaid, aeth Dafydd yn herwr. Bu'n byw yng Nghoed Carreg y Gwalch, ger Llanrwst, am flynyddoedd. Dywedir iddo ddal Castell Harlech gyda Robert ap Meredudd. Gyda Ieuan ap Rhobert ap Maredudd, cadwodd Nantconwy yn erbyn y brenin hyd 1468, ac anrheithiodd rannau o Sir Ddinbych. Yn 1468 daeth byddin Iorcaidd dan William Herbert, Iarll Penfro i feddiannu'r ardal.
Derbyniodd bardwn yn 1468, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Gwnstabl Castell Conwy, wedi iddo ladd ei ragflaenydd. Dywedir i Dafydd farw o glwyfau a gafodd mewn ffrwgwd, ac iddo gyfansoddi dau englyn ar ei wely angau. Cadwyd cerddi iddo gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf a Tudur Penllyn, ac mae rhywfaint o farddoniaeth gan Dafydd ei hun wedi ei gadw: cywydd ateb i Dudur Penllyn a chywyddau moliant i Forus Wyn o Foelyrch a Roger Kynaston.
Mewn llenyddiaeth ddiweddar, mae'n ymddangos yn Dafydd ab Siencyn yr herwr, a Rhys yr arian daear: dwy ramant Gymreig gan Elis o'r Nant (Ellis Pierce), a gyhoeddwyd yn 1905. Yn ddiweddarach, ef yw arwr cyfres o nofelau hanesyddol gan Emrys Evans. Cyhoeddwyd y rhain gan Gwasg Carreg Gwalch, a enwyd ar ôl y coed lle bu'n llochesu.
Gellir gweld sbardun y dywedir ei bod yn eiddo i Dafydd yn eglwys y plwyf, Llanrwst.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Evans, Emrys, Dafydd ap Siencyn: y gwr a'i gyfnod (Gwasg Carreg Gwalch, 1983) ISBN 0863810217