Tomos Prys
Oddi ar Wicipedia
Bardd, milwr a môr-leidr Cymreig oedd Tomos Prys, weithiau Thomas Prys, a adwaenir yn aml fel Tomos Prys o Blas Iolyn (tua 1564? - 23 Awst 1634).
Roedd Tomos Prys yn fab i Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn, Sir Ddinbych. Wedi marw ei dad daeth yn berchen maenor Ysbyty Ifan.
Bu'n ymladd yn y rhyfeloedd yr yr Iseldiroedd dan Robert Dudley, iarll Leicester, ac roedd yn Tilbury yn y fyddin a godwyd i wrthwynebau Armada Sbaen yn 1588. Treuliodd gryn dipyn o amser ar y môr fel môr-leidr; mae "Cywydd i ddangos yr heldring a fu i ŵr pan oedd ar y môr" yn adrodd ei hanes yn prynu llong ac yn mynd i ysbeilio ar arfordir Sbaen. Am gyfnod bu'n byw ar Ynys Enlli. Treuliodd lawer o amser yn Llundain. Roedd yn hoff o ymgyfreithio, a gwariodd lawer o arian ar hynny; er enghraifft daeth ag achos llys yn erbyn Syr John Wynn o Wydir, ond collodd.
Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda Margaret, merch William Gruffydd o Gaernarfon, gan gael tri o blant. Wedi ei marwolaeth hi, priododd Jane, merch Hugh Gwynn, Berth-ddu a Bodysgallen; cawsant ddeg o blant.
Cyfansoddodd lawer o gywyddau, a bu'n ymryson a nifer o feirdd eraill, yn cynnwys Edmwnd Prys a Siôn Phylip. Roedd ei gyfeillion yn cynnwys y beirdd Rhys Cain, Rhys Wyn ac Edmwnd Prys. Mae nifer o'r cywyddau yn ddiddorol oherwydd eu bod yn rhoi llawer o'i hanes ef ei hun, ond nid yw beirniaid yn ystyried eu bod o werth llenyddol uchel. Mae'n defnyddio cryn dipyn o Saesneg yn rhai ohonynt.
[golygu] Darllen pellach
Erys gwaith Tomos Prys heb ei olygu. Ceir ei hanes yn:
- William Rowland, Tomos Prys (Caerdydd, 1964). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Ddewi.