Aberdesach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Aberdesach yn bentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd. Saif ar y ffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Pontllyfni a Clynnog Fawr. Mae Afon Desach yn tarddu gerllaw Bwlch Derwin uwchben y pentref ac yn cyrraedd y môr ger rhan ogleddol y pentref. Ystyrir y pentref yn rhan o Ddyffryn Nantlle.
Gellir gweld nifer o dai ffermydd mawr yn yr ardal sy'n tystio i ddylanwas Stâd Glynllifon yn yr ardal yma. Mae adeiladau'r pentref ei hun yn weddol ddiweddar, a nifer ohonynt yn dai haf. Cysylltir "Penarth" gerllaw Aberdesach a "Pennardd" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Cysylltiad arall a'r chwedl yma yw Maen Dylan gerllaw Trwyn Maen Dylan, rhwng Aberdesach a Phontllyfni.
Mae traeth bychan a maes parcio yn Aberdesach, sydd hefyd o ddiddorden adaryddol fel yn ôl pob tebyg y lle gorau yng Nghymru i weld y Trochydd Mawr yn y gaeaf.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Manylion am Aberdesach o Wefan Dyffryn Nantlle