Groeslon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Groeslon neu Y Groeslon yn pentref yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Saif gerllaw priffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Phenygroes, ac ychydig i'r gorllewin o bentref Carmel a bryn Moel Tryfan. Hyd yn ddiweddar yr oedd yr A487 yn mynd trwy'r pentref, ond yn 2002 agorwyd ffordd osgoi newydd.
Tyfodd y Groeslon fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi yn yr ardal. Datblygodd y pentref yn sgil agor gorsaf rheilffordd yr LMS yn 1867. O'r Groeslon yr oedd y dramodydd John Gwilym Jones a'r bardd Tom Huws yn enedigol.
[golygu] Cysylltiadau allanol
[Hanes y Groeslon o Safle We Dyffryn Nantlle]