Rhyd-Ddu
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhyd-Ddu Gwynedd |
|
Mae Rhyd-Ddu yn bentref yn sir Gwynedd ar lôn yr A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert.
Gorwedd Rhyd-Ddu gerllaw llethrau gorllewinol Yr Wyddfa, ac mae llwybr i gopa'r Wyddfa yn cychwyn o'r pentref. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi ei hail-agor o Gaernarfon cyn belled a Rhyd-Ddu.
Mae'r pentref hefyd yn enwog fel man geni y llenor T.H. Parry-Williams yn Nhŷ'r Ysgol.