Fairbourne
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Fairbourne yn bentref yn ne Gwynedd Yn anarferol iawn i bentref yng Ngwynedd, nid oes iddo enw Cymraeg. Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg am Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae Friog yn bentref ar wahan. Gelwid yr ardal yn Morfa Henddol cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw Rowen wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg.
Saif Fairbourne ger y briffordd A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Glannau Cymru ac mae Rheilffordd Fairbourne yn arwain i'r de i gyfeiriad Tywyn. Gellir cael fferi dros yr afon i Abermaw. Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.