Talybont, Bangor
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Talybont (weithiau Tal-y-Bont) yn bentref gerllaw dinas Bangor yng Ngwynedd; un o nifer o bentrefi o'r enw yma yng Nghymru.
Saif Talybont ar lôn gefn rhwng Llandygai a ffordd yr A55, gerllaw Afon Ogwen. Mae yno un gwesty, yr Abbeyfield, ac mae Neuadd Hendre, a gafodd ei hadeiladu yn 1860, yn cael ei defnyddio ar gyfer perfformiadau sawl math o gerddoriaeth. Saif plasty hynafol Cochwillan a Melin Cochwillan ar lan Afon Ogwen gerllaw.