Waunfawr (Gwynedd)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Waunfawr (weithiau Waenfawr) yn bentref sylweddol o faint ar y ffordd A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert yng Ngwynedd ac ar Afon Gwyrfai. Mae yno orsaf ar Reilffordd Ucheldir Cymru ym mhen deheuol y pentref.
Waunfawr yw catref Antur Waunfawr, elusen sy'n darparu gwaith bar gyfer yr anabl trwy gynnal nifer o brosiectau, yn cynnwys safle Bryn Pistyll yn Waunfawr ei hun, sy'n cynnwys gerddi, caffi a siop grefftau.
Yn 1914 adeiladodd cwmni Marconi orsaf ddarlledu ger y pentref, oedd yn gyrru negeseuon i orsaf dderbyn ger Tywyn. Mae'r adeilad yn awr yn ganolfan fynydda.
Ymhlith enwogion o Waunfawr mae'r fforiwr John Evans a fu'n chwilio am olion Madog a'i griw yn yr Unol Daleithiau ac a ddaeth i gysylltiad a llwyth y Mandan.