Bethel (Gwynedd)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Bethel
Mae Bethel yn bentref ar y ffordd B4366 rhwng Caernarfon a Llandygái yng Ngwynedd, 4 kilometr o Gaernarfon a 7 kilometr o Fangor.
Tyfodd y pentref yn sgil datblygiad chwareli Llanberis, yn enwedig Chwarel Dinorwig, gan fod Bethel wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. Gerllaw Bethel ei hun mae Saron a Penrhos. Yn y pentref ceir siop, garej gwerthu ceir, cigydd, tri chapel a thafarn "Y Bedol". Mae yno glwb peldroed. I'r de o'r pentref mae bryngaer Dinas Dinorwig.