Rwmania
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: dim | |||||
Anthem: Deşteaptă-te, române! | |||||
Prifddinas | Bucureşti | ||||
Dinas fwyaf | Bucureşti | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Rwmaneg1 | ||||
Llywodraeth | Democratiaeth seneddol Traian Băsescu Călin Popescu-Tăriceanu |
||||
Annibyniaeth Datganwyd Adnabwyd |
10 Mai, 1877 2 13 Gorffennaf, 1878 3 |
||||
Esgyniad i'r UE | 1 Ionawr, 2007 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
238,391 km² (81fed) 3% |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif Gorffennaf 2006 - cyfrifiad 2002 - Dwysedd |
22,303,552 (50fed) 21,680,974 93.7/km² (79fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2006 $204.4 biliwn (44fed) $9,446 (67fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2005) | 0.792 (64fed) – canolig | ||||
Arian breiniol | Leu (RON ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
EET (UTC+2) EEST (UTC+3) |
||||
Côd ISO y wlad | .ro | ||||
Côd ffôn | +40 |
||||
1Mae ieithoedd eraill, megis Hwngareg, Romani, Wcreineg a Serbeg, yn gyd-swyddogol ar lefelau lleol gwahanol. 2 Rhyfel Annibyniaeth Rwmania |
Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România IPA: /ro.mɨ'ni.a/). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de ar lan yr Afon Donaw, ac yr Wcráin a Moldofa i'r gogledd-ddwyrain. Mae gan Rwmania morlin de-ddwyreiniol â'r Môr Du ac mae de-ddwyrain cadwyn y Mynyddoedd Carpathia yn rhedeg trwy ganolbarth y wlad.
Mae Rwmania wedi bod yn aelod o NATO ers 2004, ac ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr, 2007, yn dilyn arwyddiad Cytundeb Esgyniad yr UE ar ddechrau 2005.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
O dan yr Ottomaniaid, o'r bymthegfed ganrif nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y Rwmaniaid eu hymgyrch am annibyniaeth genedlaethol yn ystod yr 1820au, yn dyheu at uniad Moldofa, Wallachia a Thransylfania. Yn 1862 unodd Moldofa a Wallachia i ffurfio'r Dywysogaeth unedol o Rwmania, a chreuwyd brenhiniaeth yn 1866.
Bu ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïau awtarciaidd Nicolae Ceauşescu, arweinydd Rwmania Gomiwnyddol o 1965 i 1989, yn lwyddiannus, ac wrth drio talu holl dyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yr economi a arweiniodd at dlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddo droi'n wladwriaeth heddlu (gweler Securitate, heddlu cudd y Rwmania Comiwnyddol). Saethwyd Ceauşescu a'i wraig Ddydd Nadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr yn Nhimisoara.[1]
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.
Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.
[golygu] Siroedd
Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bucureşti (y brifddinas).
Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:
|
|
[golygu] Daearyddiaeth
Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania â Serbia a Bwlgaria gan yr Afon Donaw. Ymunir y Donaw gan yr Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifir y Donaw i'r Môr Du, yn ffurfio Delta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.
Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.
Mae gan Rwmania tirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.
Mae Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynu Gwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at Wastadedd Bărăgan.
Tri mynydd uchaf Rwmania yw:
Enw | Uchder | Grŵp Mynyddoedd | |
---|---|---|---|
1 | Copa Moldoveanu | 2 544 m | Mynyddoedd Făgăraş |
2 | Omu | 2 500 m | Mynyddoedd Făgăraş |
3 | Piatra Craiului | 2 489 m | Mynyddoedd Făgăraş |
[golygu] Dinasoedd
Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinas Bucureşti, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:
# | Dinas | Poblogaeth[2] | Sir |
---|---|---|---|
1. | Bucureşti | 2 082 334 | Sir Bucureşti |
2. | Iaşi | 320 888 | Sir Iaşi |
3. | Cluj-Napoca | 317 953 | Sir Cluj |
4. | Timişoara | 317 660 | Sir Timiş |
5. | Constanţa | 310 471 | Sir Constanţa |
6. | Craiova | 302 601 | Sir Dolj |
7. | Galaţi | 298 861 | Sir Galaţi |
8. | Braşov | 284 595 | Sir Braşov |
9. | Ploiesti | 232 527 | Sir Prahova |
10. | Braila | 216 292 | Sir Braila |
11. | Oradea | 206 616 | Sir Bihor |
12. | Bacau | 175 500 | Sir Bacau |
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
- ↑ (Rwmaneg) Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002 PDF
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Rwmaneg) Arlywyddiaeth Rwmania
- (Rwmaneg) Senedd Rwmania
- (Rwmaneg) Siambr Dirprwyon Rwmania
- (Saesneg) CIA World Factbook - Romania
Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd |
|
---|---|
Yr Almaen | Awstria | Gwlad Belg | Bwlgaria | Cyprus | Denmarc | Yr Eidal | Estonia | Y Ffindir | Ffrainc | Gwlad Groeg | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Gweriniaeth Iwerddon | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Malta | Portiwgal | Gwlad Pwyl | Rwmania | Sbaen | Slofacia | Slofenia | Sweden | Y Weriniaeth Tsiec | Y Deyrnas Unedig |
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) | |
---|---|
Yr Almaen | Bwlgaria | Canada | Denmarc | DU | Yr Eidal | Estonia | Ffrainc | Gwlad Groeg | Y Weriniaeth Tsiec | Gwlad Belg | Gwlad yr Iâ | Gwlad Pwyl | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Norwy | Portiwgal | Rwmania | Slofacia | Slofenia | Sbaen | Twrci | UDA |