Y Cenhedloedd Unedig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sefydliad rhyngwladol gyda 192 o aelodau gwladwriaethol (2006) yw'r Cenhedloedd Unedig (CU). Mae bron pob gwlad yn aelod o'r sefydliad a sefydlwyd ar 24 Hydref, 1945 yn San Francisco, ar ôl Cynhadledd Dumbarton Oaks yn Washington, DC. Cynhalwyd ei Gynulliad Cyffredinol cyntaf ar 10 Ionawr, 1946 yn Church House, Llundain.
Gall unrhyw wlad sy'n parchu heddwch yn ogystal â bod yn barod i dderbyn oblygiadau Siarter y CU ac sydd â'r gallu a'r parodrwydd i gyflenwi'r oblygiadau hynny ym marn y cynhedloedd Unedig fod yn aelod.
Ysgrifennydd Cyffredinol y CU yw Ban Ki-moon.
[golygu] Gweler hefyd
- Cronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF)
- Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO)
- Sefydliad Iechyd y Byd (SIB/WHO)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.