Abernant, Sir Gaerfyrddin
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Abernant. Saif ar ffordd gefn, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Caerfyrddin. Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Lucia, a cheir cofnod ati yn 1197 sy'n cyfeirio at gysylltiad a Phriordy Sant Teilyddog. Mae mynwent yr eglwys o faint anarferol, dros bedair erw a hanner, gyda nant yn rhedeg trwyddi. Gwaharddwyd claddu ar ochr ddwyreiniol y nant ers yr ail ganrif ar bymtheg pan gladdwyd cannoedd o bobl tref Caerfyrddin yno adeg y pla.
Gerllaw mae Castell Dwyran, lle cafwyd hyd i garreg goffa, yn dwyn yr arysgrif Ladin Memoria Voteporigis Protictoris a'r enw 'Votecorigas' mewn llythrennau Ogam; yn ôl pob tebyg carreg fedd y Vortiporius (Gwrthefyr) sy'n cael ei gondemnio gan Gildas.