Brechfa
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Brechfa. Fe'i lleolir tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin, ar y B4310 tua hanner ffordd rhwng Nantgaredig a Llansawel.
Gorwedd Brechfa ar lan afon Pîn, un o ledneintiau afon Cothi, ger y man lle llifa afon Marles (Marlais) i lawr o fryniau Llanfihangel-rhos-y-corn. Enwir Fforest Brechfa ar ei ôl. Mae afon Cothi yn llifo heibio hanner milltir i'r dwyrain o'r pentref ei hun.
Cysegrir eglwys Brechfa i Sant Teilo. Dyddia'r adeilad presennol i 1893 ond saif ar safle eglwys gynharach.
Bu'r bardd ac arweinydd radicalaidd William Thomas (1834-1879) yn byw ym Mrechfa. Adwaenir ef yn well wrth ei enw barddol Gwilym Marles, ar ôl afon Marles.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Tudalen gwe Eglwys Brechfa