Gorslas
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Gorslas, weithiau Gors-las. Saif y pentref ar y briffoedd A476 i'r gogledd-orllewin o dref Rhydaman. Saif yn y maes glo carreg, ac arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma.
Heblaw pentref Gorslas, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefneithin, Capel Seion, Foelgastell a Dre-fach. Yn y gymuned yma hefyd mae Llyn Llech Owain, a gysylltir a chwedlau am Owain Lawgoch. Cynhaliwyd cyfarfod mawr ar lan y llyn yn 1843 yn ystod Helyntion Beca.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,716, gyda 78.61% yn medru rhywfaint o Gymraeg.