Abergorlech
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a phlwyf yn rhannau uchaf Ystrad Tywi, Sir Gaerfyrddin, yw Abergorlech. Saif ar aber Afon Gorlech yn Afon Cothi. Mae ar lôn y B4310 rhwng Llansawel i'r gogledd a Brechfa i'r de, tua 10 milltir i'r dwyrain o dref Llanymddyfri.
Roedd plwyf Abergorlech gynt yn gorwedd yng nghwmwd Caeo yn y Cantref Mawr.
Cysylltir y brudiwr Dafydd Gorlech (fl. tua 1410-1490), un o Feirdd yr Uchelwyr, ag Abergorlech, er nad oes sicrwydd iddo fyw yno.
Dwy filltir i'r gogledd ceir Rhydcymerau a Mynydd Llanybydder, bro'r llenor D. J. Williams.