Cilycwm
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cilycwm. Saif ar Afon Gwenlais, ychydig i'r gogledd o'r fan lle mae'n ymuno ag Afon Tywi ac i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel, yn dyddio o'r 15fed ganrif, a cheir murluniau diddorol ynddi. Ceir ywen enfawr yn y fynwent.
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o fynyddoedd Elenydd; y pwynt uchaf yw Mynydd Mallaen (448m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.
[golygu] Enwogion
- Morgan Rhys, emynydd