Cefneithin
Oddi ar Wicipedia
Pentref glofaol yn Sir Gaerfyrddin yw Cefneithin. Saif y pentref ar ffordd gefn ychydig i'r de o'r briffordd A48, saith milltir i'r gogledd-orllewin o dref Rhydaman. Saif yn y maes glo carreg, ac arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Llifa Afon Gwendraeth Fawr gerllaw'r pentref.
Ceir yma swyddfa'r post ac ysgol gynradd, ac yma mae Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa. Mae Cefneithin yn nodedig fel man geni dau o brif enwogion Rygbi'r Undeb Cymru, Carwyn James a Barry John.