Meidrim
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Meidrim. Saif ar gyffordd y B4299 a'r B4298, ychydig i'r gogledd o Sanclêr ac wyth milltir i'r gorllewin o dref Caerfyrddin. Mae'r boblogaeth tua 603, a cheir yno ysgol, dwy dafarn, eglwys a chapel. Codwyd y pentref mewn man lle’r oedd modd pontio Afon Dewi Fawr.
[golygu] Cysylltiad allanol