Mynydd-y-garreg
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn ne Sir Gaerfyrddin, de-orlllewin Cymru, yw Mynydd-y-garreg (hefyd Mynydd-y-Garreg; weithiau Mynyddygarreg).
Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gydweli ger bryn isel Mynydd-y-Garreg, yn rhan isaf Cwm Gwendraeth. Rhed Afon Gwendraeth Fach heibio i'r pentref.
Ganwyd y cyn-chwareuwr rygbi enwog a sylwebydd chwareuon Ray Gravell yn y pentref ar 3 Medi, 1951.