Cwmann
Oddi ar Wicipedia
Pentref bach yng nghymuned Pencarreg yw Cwmann ar ochr Sir Gaerfyrddin Afon Teifi. Lleolir Cwmann gyferbyn Llanbedr Pont Steffan ac mae erbyn hyn wedi datblygu i fod yn faesdref i'r dref honno. Enwyd y pentref ar ôl hen dafarn y Cwm Ann ac mae hefyd yn gartref i dafarn adnabyddus iawn, sef y Ram Inn, un o dafarndai hynotaf Cymru.