Llanarthne
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Llanarthne (Saesneg Llanarthney). Fe'i lleolir 12km i'r ddwyrain o Gaerfyrddin a 10km i'r de-orllewin o Landeilo. Mae'n gartref i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ers y flwyddyn 2000. Mae 721 o bobl yn byw yng nghymuned Llanarthne, 61% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001)