Talyllychau
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Talyllychau (Saesneg Talley). Mae'n adnabyddus am adfeilion yr abaty a leolir yno.
Lleolir y pentref ar ben dau lyn, ac mae ei enw yn tarddu oddiwrth ddisgrifiad o'i leoliad: tal ('pen') a llychau, ffurf luosog ar llwch 'llyn' fel a welir yn enw tref Looe yng Nghernyw. Ei boblogaeth yw 534 o drigolion (Cyfrifiad 2001). Mae 48% yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).