Cynghordy
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Cynghordy. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Llanwrtyd i'r gogledd-ddwyrain a Llanymddyfri i'r de-orllewin. Yr enw ar yr hen bentref yw Llanfair-ar-y-bryn.
Saif ar lan Afon Brân. I'r dwyrain mae Coedwig Crychan. Mae ffyrdd llai yn ei gysylltu â phentref Tirabad i'r dwyrain a Rhandirmwyn dros y bryniau i'r gorllewin.
Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.