Pencarreg
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pencarreg. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi, ychydig i'r gogledd-ddwrain o dref Llanybydder, ar y briffordd A485 rhwng Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan. Mae'r eglwys wedi ei hadeiladu ar graig uwchben y pentref, a saif Llyn Pencarreg gerllaw.
Bu Gwynfor Evans yn byw yn Nhalar Wen yma am flynyddoedd, a bu farw yno yn 2005. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Cwmann.